Amdanom ni
Sefydlwyd Cymdeithas Dewi Sant dros drigain mlynedd yn ol fel clwb cymdeithasol i Gymry alltud a oeddent yn byw neu yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon.. Heddiw, 'rydym yn croesawu unrhyw un sydd yn berchen cysylltiad a Chymru neu sydd a diddordeb ym mhethau Cymreig.
Baner Dewi Sant (cliciwch i ddarganfod mwy)
Ein Gweithgareddau
Mae'r gymdeithas yn cyfarfod rhyw bedair gwaith y flwyddyn am ginio Sul, i sgwrsio a gwrando ar ddifyrrwch ysgafn. Yn ystod yr haf, 'rydym yn cynnal barbeciw a mynd i'r sinema neu i gyngerdd.
Aelodaeth
Mae aelodaeth yn agored i'r sawl a fedd unrhyw gysylltiad a Chymru drwy enedigaeth, priodas, cyfeillach, tueddiad neu fabwysiad. 'Does dim angen siarad Cymraeg, ond fe allwn gynnig cyfle i ymarfer, os fydd eisiau.
Rheoliad
Mae'r gymdeithas yn cael ei rhedeg gan bwyllgor gwaith o bump; y Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd a dau aelod yn ychwaneg. Y pwyllgor sy'n trefnu gweithgareddau'r flwyddyn. Mae'r gymdeithas yn ddi-elw ac mae'r swyddogion yn gweithio'n ddi-dâl.
